Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA10

 

Teitl: Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2010

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 

Bydd y Rheoliadau drafft hyn yn berthnasol yng Nghymru ac yn Lloegr.

 

Mae’r Rheoliadau yn diwygio rhai o’r darpariaethau sy’n ymwneud â rheoleiddio sylweddau ymbelydrol yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 S.I.2010/675, er mwyn darparu system fwy modern a thryloyw sy’n hawdd ei defnyddio ar gyfer rheoleiddio sylweddau ymbelydrol sy’n peri risg isel iawn i bobl a’r amgylchedd, tra’n cynnal y lefel angenrheidiol o amddiffyniad.  

 

Mae’r rheoliadau drafft hyn hefyd yn trosi darpariaethau’r Gyfarwyddeb Atal a Rheoli Llygredd mewn ffordd Integredig (Cyfarwyddeb 2008/1/EC) a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (Cyfarwyddeb 2000/60/EC) sydd wedi’u mewnosod gan y Gyfarwyddeb Dal a Storio Carbon (Cyfarwyddeb 2009/31/EC).

 

Materion technegol: craffu

O dan Reol Sefydlog 15.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i'r offeryn a ganlyn:-

1.   Ni wnaethpwyd y Rheoliadau hyn yn ddwyieithog.

 

[21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].

 

 

Rhinweddau: craffu

O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynullid i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.   Mae rhannau o’r Rheoliadau hyn yn trosi darpariaethau’r Gyfarwyddeb Dal a Storio Carbon. Y terfyn amser ar gyfer trosi’r Gyfarwyddeb Dal a Storio Carbon oedd 25 Mehefin 2011. Mae’r Rheoliadau hyn wedi methu â chael eu gweithredu yng Nghymru a Lloegr o fewn yr amserlen a osodwyd gan y Gyfarwyddeb Dal a Storio Carbon. 

 

2.   Mae’r memorandwm esboniadol a luniwyd gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn nodi y bydd y darpariaethau sy’n gweithredu Erthyglau 32 a 37 o’r Gyfarwyddeb Dal a Storio Carbon yn dod i rym drannoeth y diwrnod gwneud y rheoliadau. Mae’n nodi y gellir cyfiawnhau’r cyfnod amser byr yn yr achos hwn, er mwyn gallu rhoi’r Rheoliadau drafft mewn grym cyn gynted â phosibl ar ôl y terfyn amser ar gyfer trosi a nodir yn y Gyfarwyddeb, o ystyried lefel uchel yr ymwybyddiaeth am y newid arfaethedig ymysg y rhai sy’n cael eu heffeithio. 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Mehefin 2011

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2011

 

Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn diwygio rhai o'r darpariaethau sy'n ymwneud â sylweddau ymbelydrol yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010, Offeryn Statudol 2010.675, ac maent yn newid rhai o Erthyglau’r Gyfarwyddeb Dal a Storio Carbon (Cyfarwyddeb 2009/31/EC) ("y Gyfarwyddeb DSC").

 

Mae'r drefn Trwyddedu Amgylcheddol yn symleiddio'r rhannau hynny mewn ystod o ddeddfwriaeth hynod dechnegol a chymhleth sy'n ymwneud â gweithdrefnau. Mae hyn wedi'i gwneud yn bosibl symleiddio'r system drwyddedu y mae'r diwydiant a'r rheolyddion yng Nghymru a Lloegr yn ei defnyddio heb beryglu'r safonau amgylcheddol nac iechyd pobl mewn unrhyw ffordd.  Oherwydd hyd a lled y ddeddfwriaeth, mae angen ei diwygio o bryd i'w gilydd. Gwnaed y newidiadau hyn drwy'r offerynnau cyfansawdd y cytunwyd arnynt â'r Ysgrifennydd Gwladol er mwyn symleiddio'r system. Mae'r offeryn cyfansawdd hefyd yn lleihau anghyfleustra a dryswch posibl i'r rheini y mae'r Rheoliadau yn effeithio arnynt, yn enwedig o ystyried bod Asiantaeth yr Amgylchedd (un o'r rheolyddion) yn gorff trawsffiniol. Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn berthnasol i Gymru a Lloegr, ac mae'n rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU eu cymeradwyo. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i'r Offeryn hwn gael ei osod ar ffurf ddrafft, na'i ddarparu'n ddwyieithog.

 

Mae'r Llywodraeth yn ymddiheuro na wnaed y diwygiadau hyn mewn pryd i fodloni'r dyddiad cau ar gyfer newid y Gyfarwyddeb DSC.  Effeithiodd y materion a gododd o'r broses glirio fewnol cyn deddfu ar yr amserlen ar gyfer gweithredu'r Rheoliadau hyn.